For English scroll down…
Yn ddiweddar, gydag Ysgol Dyffryn Iâl, Llandegla ac Ysgol Pen Barras, Rhuthun, rydym wedi bod yn meddwl am symbiosis: sut mae popeth yn dibynnu ar bopeth arall, sut na all unrhyw rywogaeth oroesi ar ei ben ei hun – gan gynnwys ein hunain. A beth sy’n digwydd pan fydd un edefyn yn y we yn chwalu (ateb: mae’r gweddill yn dilyn yn fuan, gan gynnwys ein rhai ni).

Rydyn ni wedi bod yn archwilio’r berthynas (hynafol a modern) rhwng gwartheg, blodau fel fioled y gors, gloÿnnod byw ac iaith – pob un ohonynt angen ei gilydd i ddal ati.
Mae pob disgybl wedi creu llusern hardd sy’n mynegi’r berthynas bwysig hon.

Gan weithio gyda’n gilydd rydyn ni’n mynd i greu digwyddiad hudolus lle mae’r llusernau’n cyfuno â darn animeiddiedig am y stori bwysig hon.
Bydd hyn yn digwydd ym Mharc Gwledig Loggerheads lle byddwn yn ailsefydlu ein sinema 3D yn y felin ddŵr.
Ac rydym yn gwahodd teuluoedd i ymuno â’u plant i helpu greu cwmwl o gloynod byw disglair a fydd yn hedfan allan o’r tafluniad…
Y Clymau Sy’n Cynnal – The Ties That Bind
Parc Gwledig Loggerheads, Ffordd Rhuthun, Yr Wyddgrug, CH7 5LH
Dydd Gwener 10fed o Fawrth am 6.30pm – 8.30pm

Recently, with Ysgol Dyffryn Iâl, Llandegla and Ysgol Pen Barras, Ruthin, we’ve been having a think about symbiosis: how everything depends on everything else. And what happens when one thread in the web of life disintegrates (answer: the rest soon follow, our own included).
We’ve been exploring the relationship (ancient and modern) between cattle, flowers like the marsh violet, butterflies and language – all of which need each other to keep going.

Each pupil has made a beautiful lantern which expresses this important relationship.
Working together we are going to create a magical event in which the lanterns combine with an animated piece about this important story.
This will take place at Loggerheads Country Park where we will be lighting up our 3D cinema in the watermill especially for the occasion.
And we’re inviting families to join with their children in helping create a cloud of glowing butterflies which will flutter out of the projection…
Y Clymau Sy’n Cynnal – The Ties That Bind
Loggerheads Country Park, Ruthin Road, Mold, CH7 5LH
Friday 10th March @ 6.30 – 8.30pm


